Public Affairs Update - March 2023
Information from our Public Affairs team, including information on increased funding for new allied health professionals.
01 March 2023
Welsh government
Increased funding for new allied health professionals
We welcome the news that £5 million recurring funding will be allocated to health boards to increase allied health professionals, including psychologists. However, Welsh government officials tell us that it will be for health boards to determine exactly how to utilise this funding to develop models and teams that best meet the needs of their population.
Together for Mental Health
The Welsh government's 10-year Mental Health Strategy came to a close in December 2022. Lynne Neagle, the Deputy Minister for Mental Health and Wellbeing has promised to consult widely in 2023 with stakeholders to inform a public consultation due at the end of 2023. We will be taking part and will be asking you to share your views.
Health and Social Care Workforce Implementation Plans published
On 1 February, the long-awaited implementation plans for the joint HEIW and SCW Workforce Strategy were published. A Strategic Workforce Implementation Board will advise the minister on progress. HEIW will "review allied health professions to understand the current position and future needs to deliver our services, resulting in an AHP retention plan" by July 2023.
Senedd
Connecting the Dots: Tackling mental health inequalities in Wales
The Senedd's Health and Social Care Committee (Dec '22) sets out its recommendations to Welsh government for tackling mental health inequalities in Wales and states that the new mental health strategy (see above) must "recognise and address the impact of trauma, and tackle inequalities in society and the wider causes of poor mental health". Read a copy of the report here.
Health and Social Care Committee forward programme
Russell George, Chair of the Health and Social Care Committee, is inviting views on our priorities that can help shape their forward programme '23 – '24. The committee is meeting initially at the end of February but will formally engage with stakeholders over the summer.
We will be taking part and will be asking you to share your views.
Open Consultations
Development of the Outdoor Education (Wales) Bill (deadline 17 March)
The proposed Bill seeks to establish a statutory duty on local authorities to ensure that all young people receiving maintained education are provided with the opportunity to experience residential outdoor education, for at least one week, at some stage during their school years.
We will be responding to the consultation and if you would like your views included, please contact Manel. Or you can submit your views via the Online Survey (below) to submit your own views.
Y diweddaraf am faterion cyhoeddus - Mawrth 2023
Llywodraeth Cymru
Rhagor o gyllid ar gyfer gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd newydd
Yr ydym yn croesawu'r newyddion y bydd £5 miliwn o gyllid rheolaidd yn cael ei ddyrannu i fyrddau iechyd er mwyn cynyddu nifer y gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, gan gynnwys seicolegwyr. Fodd bynnag, dywed swyddogion Llywodraeth Cymru wrthym mai mater i fyrddau iechyd fydd penderfynu'n union sut i ddefnyddio'r cyllid hwn i ddatblygu modelau a thimau sy'n diwallu anghenion eu poblogaeth orau.
Law yn Llaw at Iechyd Meddwl
Daeth Strategaeth Iechyd Meddwl 10 mlynedd Llywodraeth Cymru i ben ym mis Rhagfyr 2022. Mae Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles, wedi addo ymgynghori'n eang yn 2023 gyda rhanddeiliaid er mwyn cyfrannu at ymgynghoriad cyhoeddus sydd i'w gynnal ddiwedd 2023. Byddwn yn cymryd rhan a byddwn yn gofyn i chi rannu eich barn.
Cyhoeddi Cynlluniau Gweithredu'r Gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Ar 1 Chwefror, cyhoeddwyd y cynlluniau gweithredu hirddisgwyliedig ar gyfer Strategaeth Gweithlu ar y cyd AaGIC a Gofal Cymdeithasol Cymru. Bydd Bwrdd Gweithredu Gweithlu Strategol yn rhoi gwybod i'r gweinidog am y cynnydd. Bydd AaGIC yn "adolygu proffesiynau iechyd cysylltiedig i ddeall y sefyllfa bresennol ac anghenion y dyfodol o ran darparu ein gwasanaethau, gan arwain at gynllun cadw Proffesiynau Perthynol i Iechyd" erbyn mis Gorffennaf 2023.
Y Senedd
Cysylltu'r Dotiau: Mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru
Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd (Rhagfyr '22) yn nodi ei argymhellion i Lywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru ac mae'n datgan bod yn rhaid i'r strategaeth iechyd meddwl newydd (gweler uchod) "gydnabod a mynd i'r afael ag effaith trawma, a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau mewn cymdeithas ac achosion ehangach iechyd meddwl gwael". Cliciwch yma i gael copi o'r adroddiad.
Blaenraglen y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae Russell George, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn gwahodd sylwadau ar ein blaenoriaethau a all helpu i lunio eu blaenraglen '23 – '24. Bydd y pwyllgor yn cwrdd i ddechrau ddiwedd mis Chwefror ond bydd yn ymgysylltu'n ffurfiol â rhanddeiliaid dros yr haf.
Byddwn yn cymryd rhan a byddwn yn gofyn i chi rannu eich barn.
Ymgynghoriadau Agored
Datblygu Bil Addysg Awyr Agored (Cymru) (dyddiad cau 17 Mawrth)
Mae'r Mesur arfaethedig yn ceisio sefydlu dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i sicrhau bod yr holl bobl ifanc sy'n cael addysg a gynhelir yn cael cyfle i gael profiad o addysg breswyl yn yr awyr agored, am o leiaf wythnos, rywbryd yn ystod eu blynyddoedd ysgol.
Byddwn yn ymateb i'r ymgynghoriad ac os hoffech i'ch barn gael ei chynnwys, cysylltwch â Manel. Neu gallwch glicio ar yr Arolwg Ar-lein (isod) i gyflwyno eich safbwyntiau eich hun.