Student remote learning
Leadership and teamwork

Ffarwelio â Josh Payne

Mae cyn Gadeirydd Cangen Cymru yn pwyso a mesur ei dair blynedd yn y rôl.

27 February 2023

Ar ôl tair blynedd fel Cadeirydd Cangen Cymru Cymdeithas Seicolegol Prydain, mae'n bryd i mi roi'r gorau iddi a ffarwelio. Y prif nod a oedd gennyf pan ymgymerais â rôl cadeirydd oedd cryfhau a datblygu llais seicolegwyr Cymru a gwneud Cangen Cymru yn fwy gweladwy. Credaf ein bod wedi dechrau cyflawni hynny.

Yn ystod fy nghyfnod fel cadeirydd, datblygasom berthynas waith gref gyda'r pwyllgorau rhanbarth yng Nghymru, gan roi cydgefnogaeth i'w gilydd, ac agor cyfleoedd ar gyfer datblygu pellach. Gyda chefnogaeth Deryn, clywyd lleisiau seicolegwyr sy'n gweithio ar y rheng flaen yng Nghymru yn y Senedd ac fe wnaethom gyfrannu tystiolaeth at nifer o filiau.

Yn ogystal, lansiodd y pwyllgor ddwy wobr grant ar gyfer myfyrwyr ôl-radd sy'n astudio yng Nghymru a buom yn lobïo am gyfieithu ein gohebiaeth i'r Gymraeg yn llawn, gan arwain at gylchlythyr dwyieithog a deialog barhaus gyda BPS yn ganolog.

Un o'r pethau rwy'n fwyaf balch ohono yw dod â chynrychiolaeth i'r miloedd o fyfyrwyr seicoleg sy'n astudio gyda'r Brifysgol Agored, nad oedd ganddynt fawr o gynrychiolaeth yn hanesyddol gyda'r BPS yng Nghymru. 

Ym mis Ebrill 2022, gadewais y byd academaidd a'm rôl fel Darlithydd Seicoleg ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, i ymgymryd â rôl Prif Ddadansoddwr Gwybodaeth yng Nghanolfan Ganser Clatterbridge. 

Fy mwriad oedd parhau i gefnogi'r pwyllgor ond roedd bywyd teuluol, rôl newydd, a gollwng fy nghyfrifoldebau academaidd yn golygu nad oedd hynny'n bosibl. Gyda hynny, bu'n rhaid i mi sefyll i lawr a chamu i ffwrdd. Yr ydych i gyd yn sicr mewn dwylo diogel gyda Dr Sharon Davies. 

Ac un sylw i gloi... Ysgrifennaf atoch ar ddiwrnod cyntaf y streic. Nid oedd gan yr un o'm cydweithwyr a aeth ar streic heddiw ddewis. Gwnaethant hynny i dynnu sylw at amodau dyrys mewn sefydliadau academaidd ac ansicrwydd contractau tymor byr ar gyfer myfyrwyr ac ymchwilwyr gyrfaol cynnar nad ydynt yn gallu fforddio streicio.

Yn y bôn, maent yn streicio am eu bod yn poeni mor ddwys am gynnal ansawdd y gefnogaeth a'r addysg y maent yn eu darparu i fyfyrwyr, ar gost wirioneddol i'w bywydau personol.

I unrhyw fyfyrwyr sy'n darllen hwn, cofiwch mai'r eiliadau o sylweddoliad hynny a ddaw i chi yw'r adegau gorau o'r dydd, ond er mwyn i chi gyrraedd yno, mae yna waith sylweddol iawn sy'n cael ei wneud nad ydych chi'n ei weld. I'm cydweithwyr ar y llinellau piced ... mae'n ddrwg gen i ei fod wedi dod at hyn. Efallai nad yw fy nghefnogaeth yn werth llawer y dyddiau hyn, ond rydw i gyda chi!

Hwyl fawr a diolch am y pysgod i gyd! 

Josh

 

 

Read more on these topics